Côr Meibion Bro Dysynni
Flickr You Tube

Hanes*


Yn Abergynolwyn y cychwynwyd y cor yn 1967. Roedd gan y siopwr lleol, Gwynorydd Davies, ddidordeb byw mewn bandiau pres ac mewn arwain. Fe anogodd sefydlu cor meibion ac fe chwyddodd y nifer i 30 yn y blynyddoedd dilynol.


Erbyn mis Hydref 1969 roedd y cor yn ddigon da i gymryd rhan yn ail wyl mil o leisiau yn y Royal Albert Hall. Dyma gychwyn arferiad ar gyfer y dyfodol gan i'r cor gymryd rhan yn yr wyl yn y blynyddoedd i ddod. Bu'r cor yn cymryd rhan mewn sawl digwyddiad lleol o dan arweiniad Gwynorydd yn ystod y 70au ynghyd a'i gyfeilydd ymroddedig, Gwenda Graham.


Erbyn 1980 roedd gan y cor arweinydd newydd, Mr Kennard, gyda Margaret Evans yn cyfeilio iddo. Yn anffodus, doedd Mr Kennard ddim yn dda ei iechyd ac yn raddol, fel sy'n digwydd gyda sawl cor, fe edwinodd yr aelodau i 10 nes darfod yn gyfangwbl am gyfnod. Yn yr 80au hwyr, fodd bynnag, fe ail-afaelodd Gwynorydd a Gwenda yn yr awennau ac fe ailffurffiwyd y cor.


Rywdro yn ystod y 90au dechreuodd y cor ymarfer yn Llys Cadfan a byddai'n canu'n gyson ym Mhlas Talgarth unwaith bob tair wythnos drwy'r gaeaf. Fe wellodd y sefyllfa ariannol ac yn hwyr yn y 90au fe adawodd Gwynorydd am yr ail waith gydag Aled Williams, arweinydd band Abergynolwyn, yn cymryd ei le a Val Jordan yn cyfeilio. Fe ddarganfu Aled yn fuan, fodd bynnag, fod arwain y cor a'r band yn ormod iddo ac yn y flwyddyn 2000 fe gymerodd Eirian Lloyd Owen, oedd wedi graddio yng Ngholeg Cerdd Brehinol Cymru, ei le. Fe ffurfiodd hi bartneriaeth gadarn gyda chyfeilydd newydd y cor, Mair Eleri Jones.


Roedd y cor yn dal i gymryd rhan yng nghyngherddau y Royal Albert Hall ac fe barhaodd Eirian yn arweinydd tan 2007 pan gymerodd Jim Chugg yr awennau. Mae o a Mair yn dal wrth y llyw heddiw ac mae'r cor yn canu yn well nag erioed. Mae'r ddau wrthi'n paratoi'r cor ar gyfer cyngerdd mawr nesaf y mil o leisiau a gynhelir ym Manceinion ym mis Mawrth 2012. Mae'r cor newydd orffen ei ymddanghosiad yn Neuadd Albert 2015, ar ol hyn mae'nt wedi penderfynnu cael seibiant a chanolbwntio ar gyngherddau lleol.


*Yr hanes wedi ei gasglu gyda diolch i Meurig Owen "North Wales Male Voice Choirs"


Cysylltwch Stephen Warner ar 07931 734655 neu 01341 250154 am fwy o wybodaeth

© Hawlfraint moranity.com 2019